Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

14 Hydref 2019

SL(5)452 – Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019

Gweithdrefn: Cadarnhaol

Mae Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2019 (“y Rheoliadau”) yn diwygio Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014.

Mae’r diwygiadau sy’n cael eu gwneud yn ceisio cynnal y status quo mewn perthynas â labelu bwyd, drwy gyflwyno darpariaeth drosiannol i ganiatáu i fusnesau barhau i gadw at y gofynion labelu cyn Brexit, tra’n addasu i unrhyw ofynion newydd ar ôl Brexit dros gyfnod rhesymol a phenodol o amser.

Mae’r ddarpariaeth drosiannol yn darparu na fydd hysbysiadau gwella yn cael eu cyhoeddi os yw cynnyrch yn cydymffurfio â gofynion labelu cyn gadael. Y cyfnodau pontio perthnasol ar gyfer gwahanol gynhyrchion fydd:

-        ar gyfer cynhyrchion penodedig a roddir ar y farchnad cyn y diwrnod gadael, nes bod stociau presennol cynhyrchion o'r fath wedi dod i ben;

-        ar gyfer cynhyrchion gwin a ddelir gan berson ar y diwrnod gadael, nes bod stociau wedi dod i ben; ac

-        ar gyfer cynhyrchion penodedig (heblaw gwin) a roddir ar y farchnad ar neu ar ôl y diwrnod gadael, tair blynedd, sy’n cychwyn ar y diwrnod ar ôl y diwrnod gadael.

Gwneir y Rheoliadau hyn o dan y pwerau a roddir gan baragraff 1(1) o Atodlen 2 a pharagraff 21 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Rhiant-Ddeddf: Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018

Fe’u gwnaed ar:

Fe’u gosodwyd ar: 01 Hydref 2019

Yn dod i rym ar: